Y Diflaniad
Y Diflaniad

Y Diflaniad

BBC Cymru

Overview
Episodes

Details

Ar y 14eg o Ragfyr 1953 fe aeth Stanislaw Sykut â cheffyl i'w bedoli ym mhentref bach tawel Cwmdu yn Nyffryn Tywi. Dyna oedd y tro olaf iddo gael ei weld yn fyw.

Ar ôl chwilio dyfal, methiant fu'r ymdrech i ddod o hyd iddo yn fyw neu'n farw.

Er nad oedd corff wedi ei ddarganfod, wedi misoedd o ymchwilio, fe wnaeth yr Heddlu gyhuddo Michael Onufrejczyk o lofruddiaeth. Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Yn y podlediad hwn, mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r achos ac yn ystyried beth arall allai fod wedi digwydd i’r cyn filwr o wlad Pwyl.