DEWR
DEWR
Overview
Episodes
Details
Cyfres o sgyrsiau am ‘ups and downs’ bywyd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau heriol a hapus.
Recent Episodes
NOV 29, 2020
HEATHER JONES
Yn y bennod olaf o’r gyfres ma’r lejand Heather Jones yn tywys Tara ar siwrne liwgar, gyffrous ac ysgytwol ei bywyd. Mae’n trafod sut mae canu wedi rhoi’r cryfder iddi ddelio gyda chyfnodau anodd a’r hyder i wynebu’r her o fod yn ferch yn y sîn gerddoriaeth yn y 70au. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org
65 MIN
NOV 22, 2020
IOLO SELYF
Yn eu haduniad cynta’ mewn 6 mlynedd mae Tara ac Iolo Selyf yn edrych nôl ar ei gyfnod fel frontman Y Ffug, a’i brofiad o siarad yn gyhoeddus am iselder ac anorexia. Mae Iolo hefyd yn rhannu ei brofiadau o fyw fel cerddor yn ystod pandemig, tra’n byw efo’i Nain yn Brixton. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org
52 MIN
NOV 15, 2020
MANON STEFFAN ROS
Mae Tara a Manon yn nabod ei gilydd ers llai na blwyddyn ond mae cyfeillgarwch y ddwy yn amlwg wrth iddynt drafod yr effaith o golli rhiant yn ifanc, cariad Manon tuag at ei gwaith fel un o awduron mwyaf adnabyddus Cymru a’i siwrne o ddod “nôl at Manon” gyda chymorth. Nid un, nid dwy… ond TAIR sgwrs rhwng y ddwy! Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org
69 MIN
NOV 8, 2020
GAI TOMS
Yn y sgwrs garedig, agored ac emosiynol hon mae’r cerddor barddol Gai Toms yn tywys Tara ar ei siwrne galed o golli ei fam i COVID, a sut mae ei gerddoriaeth a’i fywyd teuluol yn gysur mawr iddo. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org
45 MIN
NOV 1, 2020
HUW STEPHENS
Yn y sgwrs gynnes hon mae’r DJ Huw Stephens yn cymharu nodiadau gyda Tara am ddechrau eu gyrfaoedd fel teenagers, eu cariad at festivals a’u profiad o ddelio gyda'r galar o golli rhiant. Yn symud o’i sêt holi arferol i’r sêt rhannu mae Huw yn edrych nôl dros uchafbwyntiau ei siwrne hyd yma a’r rhyfeddod o ddod yn dad i‘w fab bach. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org
55 MIN
See all episodes