Trafod hefo Angharad Tomos

OCT 22, 202495 MIN
Gwrachod Heddiw

Trafod hefo Angharad Tomos

OCT 22, 202495 MIN

Description

Send us a text

"Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." 

Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw.  Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes,  mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri. 

Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf.
Diolch i Frân Wen am yr offer Sain.