<p>Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? </p><p>Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw!</p><p>Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.</p>