Etholiad 2026: Dadl ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau
MAY 1, 202679 MIN
Etholiad 2026: Dadl ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau
MAY 1, 202679 MIN
Description
Gydag wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, mae ymgeiswyr y pleidiau yn ymuno a Craffu360 ar gyfer dadl.

Efallai nad yw’n syndod fod y sgwrs genedlaethol cyn etholiad yn dueddol o ganolbwyntio ar y materion craidd ein hoes, megis y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg.

Ond heddiw, rydym yn pori drwy gynlluniau’r pleidiau ar gyfer yr iaith Gymraeg, y diwylliannau a’r celfyddydau.

Mi fyddwn yn trafod gwariant ar y diwydiannau creadigol, hunaniaeth Gymreig, a sut i sicrhau fod yr iaith yn ffynnu yn hytrach na gostwng.

Yn ymuno a ni mae Tom Giffard o’r Ceidwadwyr Cymreig, Dawn Evans o Lafur Cymru, Mair Rowlands o Blaid Cymru, Tessa Marshall o Blaid Werdd Cymru, a Robert Thomas o Reform UK.