Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb.

Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi mewn galwadau fideo, diffyg ciwiau gweledol fel meicrofynegiadau, a newidiadau mewn deinameg cymryd-tro yn dylanwadu ar brofiad dysgwyr — yn enwedig o ran hyder, cymhelliant a llwyddiant cyfathrebol canfyddedig.

Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil amlfoddol, sy’n cyfuno technegau megis olrhain syllu, dadansoddi emosiynau, ac astudiaeth fanwl o batrymau sgwrsio. Trwy gyfres o arbrofion a holiaduron, mae hi’n archwilio sut mae dysgwyr yn prosesu iaith mewn amodau gwahanol, gan gynnwys effaith ansawdd fideo ac oedi ar gywirdeb metawybyddol, yn ogystal â sut mae unigolion yn barnu llwyddiant mewn sgwrs.

Mae PhD Jonathan a phrosiect Emma yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ymchwil Ar Y Gweill

Cynyrchiadau Ar Y Gweill

Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian

MAR 25, 202649 MIN
Ymchwil Ar Y Gweill

Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian

MAR 25, 202649 MIN

Description