CFFI A FI / YFC & ME

CFFI Cymru / YFC Wales

Beth mae CFfI yn ei olygu i chi?

AUG 4, 202632 MIN

Description

Mae podlediad newydd CFfI Cymru - "CFfI a Fi' yn ffordd arbennig o ddathlu ein pen-blwydd yn 90 oed. Drwy sgyrsiau gyda chyn-aelodau balch ac aelodau presennol, byddwn yn edrych yn ôl ar ein hanes cyfoethog, yn hel atgofion am flynyddoedd a fu, ac yn trafod gweledigaeth y mudiad ar gyfer y dyfodol. Cawn glywed sut mae CFfI wedi rhoi sgiliau, hyder, cyfleoedd a chyfeillgarwch i gynifer o bobl dros y blynyddoedd.Mae CFfI yn cynnig cymaint mwy na gweithgareddau – mae'n gymuned. Gobeithio y bydd y podlediad yn ysbrydoli'r rhai nad ydynt eto'n aelodau i ddarganfod beth sydd gan CFfI i'w gynnig ac i ymuno â'r mudiad. Mae rhywbeth i bawb – felly mwynhewch y podlediad a dewch i ddathlu 90 mlynedd o CFfI Cymru gyda ni.Yn y bennod hon, mae Meinir Howells, cyn-aelod balch o CFfI Llanfynydd, yn ymuno â ni fel gwestai. Mae'n rhannu sut mae'r mudiad wedi rhoi cymaint o gyfleoedd iddi dros y blynyddoedd, ac yn dweud na fyddai hi lle mae hi heddiw oni bai am y profiadau, y sgiliau a'r cyfleoedd a gafodd drwy CFfI.