/http://ichef.bbci.co.uk/images/ic/3000x3000/p0hz25j4.jpg)
Lleisiau Cymru
BBC Radio Cymru
Celwydd Neil Hopper
NOV 10, 202627 MIN
/http://ichef.bbci.co.uk/images/ic/3000x3000/p0pm24qb.jpg)
Description
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwr David Grundy yn ymuno â Nic Parry i drafod hanes y llawfeddyg Neil Hopper o Geredigion. Daeth yn adnabyddus am ddychwelyd i’w waith ar ôl colli ei ddwy goes, ac am ddod yn agos at gael ei ddewis i fynd i’r gofod fel gofodwr anabl. Ond roedd yn cuddio cyfrinach dywyll iawn a fyddai’n ei yrru i’r carchar.
Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru

