4: Marchnata dros y gwyliau, tri peth syml i helpu ti gael trefn
Pedwaredd bennod o bodlediad newydd 'Mwydro am Fusnes' gan y fi - Sioned Young, sylfaenydd cwmni darlunio digidol a marchnata Mwydro. Yn y bennod hon dwi'n trafod testun reit amserol, marchnata dy fusnes dros y gwyliau. Beth ydw i am ei wneud a chwpl o tips sydyn defnyddiol i dy roi di ben ffordd a dy alluogi i ymlacio a mwynhau dy wyliau - petai hynny'n Ddolig, Haf neu jest wythnos i ffwrdd, heb orfod poeni am dy farchnata na'r effaith ar dy fusnes. Gad i mi wybod be ti'n feddwl a gad 5 seren a rhanna gyda ffrind os wnes di fwynhau'r pod! Bydd yn siŵr o ddilyn Mwydro ar y socials! Instagram | TikTok | LinkedIn Neu cer draw i fy ngwefan i ddysgu mwy! www.mwydro.com