Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

APR 30, 202418 MIN
Pigion: Highlights for Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

APR 30, 202418 MIN

Description

Ar Blât – Elinor Snowsill

Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?

Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad Always

Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus

Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for granted

Bore Cothi – Menna Williams

Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honour

Beti a’i Phobol – Shelley Rees

A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw Mai

Aled Hughes – Singapore

Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol. Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol Competitive

Dros Ginio – Llyfrau

Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly